Mynd yn droednoeth i Haiti
Datganiad i’r Wasg - 1af o Chwefror
Mi fydd gur gradd hyfforddedig o Walia yn cael gwared â’i esgidiau a’i sanau am fis er mwyn iddo godi arian i helpu pobl Haiti ar ôl trychineb y daeargryn.
Mi fydd Matthew Sparkes, 33, yn gweithio yn droednoeth trwy Chwefror er mwyn codi arian i oroeswyr Haiti. Mi fydd y cyllid yn mynd i helpu'r rheiny sydd angen gofal meddygol.
Mae sialens droednoeth Matthew yn golygu ei fod yn mynd i fod yn droednoeth ym mhob man mewnol wedi’r 1af o Chwefror - gan gynnwys y gwaith, siopa, y sinema ac wrth gymdeithasu gyda ffrindiau.
Dywedodd: “ Rwy’n gwneud yr her hon i godi arian i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y daeargryn yn Haiti. Dywedodd ffrind wrthym y byddai mynd yn droednoeth am ddiwrnod yn anodd, felly mi benderfynais ymestyn yr her i fis cyfan. Mi fydd cyfarfodydd yn ddiddorol!”
Ychwanegodd Matthew, sy’n byw ym Mrynmill, Abertawe: “Rwy’n gobeithio bydd yr arian a godaf yn mynd i wneud gwahaniaeth i’r bobl hynny sydd ei angen. Rwyf am helpu’r bobl hynny sydd wedi colli eu cartrefi a’u teuluoedd. Mae’r sialens hon a chodi’r arian yn mynd i ddangos fy nghefnogaeth a gobeithio bydd hyn yn annog pobl eraill i fy nghefnogi I”.
I noddi Matthew ymwelwch â http://www.justgiving.com/Matt-SparkesBigBlatantPushToMakeADentAndHelp

